Tystysgrif Gwaredu BVD
Mae tystysgrifau ar gael i bob buches sy’n sgrinio yn glir o BVD. Dylech sgrinio am BVD bob 300-400 diwrnod. Bydd sgrinio y tu allan i'r ffenestr hon yn arwain at eich statws yn cael ei israddio. Anogir ffermwyr i gysylltu â Gwaredu BVD ar 01554 748576 neu gwaredubvd@colegsirgar.ac.uk er mwyn gofyn am eu Tystysgrifau.
Rydym yn annog y defnydd o’r tystysgrifau hyn mewn arwerthiannau er mwyn hysbysebu eich statws iechyd BVD clir.
Ceir tair haen o dystysgrif:
Tystysgrifau Efydd
Gellir cael tystysgrif efydd ar ôl un sgriniad clir. Bydd tystysgrifau yn cael eu rhoi o fewn 12 mis o’r prawf ei hun yn unig.
Tystysgrif Arian
Rhoddir tystysgrifau arian i ffermydd sydd wedi sgrinio yn glir am ddwy flynedd yn olynol.
Tystysgrif Aur
Rhoddir tystysgrifau aur i ffermydd sydd wedi sgrinio yn glir mewn profion am dair blynedd yn olynol. (Yn gyraeddadwy o fis Mai 2019 yn unig).
Nodwch os gwelwch yn dda:-
Beth all canlyniad Sgrinio Tystysgrif Gwaredu BVD ei olygu?
-
Cymerwyd sampl gynrychiadol lle dewiswyd pum anifail fesul Grŵp Rheoli o’r holl fuches yn y CPH o dan reolaeth Ceidwad y Fuches ar y dyddiad sgrinio. Roedd yr anifeiliaid hyn yn cael samplu eu gwaed yn unigol ar ddyddiad y dystysgrif. Gall CPH fod angen profi mwy nag un grŵp rheoli.
-
Profwyd y gwaed a gasglwyd gan bob anifail ar gyfer gwrthgyrff BVD drwy ddefnyddio prawf ELISA gwrthgorff IDEXX.
-
Os nad oes gan unrhyw anifail o’r sampl/samplau cynrychiadol a brofwyd yn y fuches ganlyniad gwrthgorff positif, mae hyn yn golygu nad oes unrhyw dystiolaeth o haint BVD yn y fuches ar y CPH hwnnw, ac o ganlyniad, bydd tystysgrif rhydd o wrthgyrff yn cael ei rhoi.
-
Os oes gan un neu fwy o anifeiliaid yn y fuches (o unrhyw grŵp rheoli) ganlyniad positif, yna mae hyn yn golygu bod haint BVD yn y fuches ar y CPH hwnnw, sydd angen ymchwiliad pellach gan filfeddyg a gwneir argymhelliad y dylai ymchwiliad o’r fath ddigwydd. Yn yr achos hwn, ni roddir unrhyw dystysgrif.
-
Gall dod i gysylltiad â BVD ar ôl dyddiad y prawf olygu bod aelodau’r fuches wedi dod yn heintus, ac felly mae’r canlyniad sgrinio yn ddynodwr o statws BVD y fuches ar ddyddiad y sgrinio yn unig, e.e. os yw anifeiliaid sy’n cario BVD yn cael eu cyflwyno i’r fuches ar ôl dyddiad y prawf, bydd statws BVD y fuches yn newid a bydd hyn yn achosi risg i brynwyr.
-
Mae hyfforddiant ar gael i bob milfeddyg sy’n cynnal y prawf sgrinio drwy becyn CPD ar-lein sy’n cael ei gyflenwi gan Gwaredu BVD.
-
Mae pob labordy sy’n adolygu canlyniadau’r prawf yn achrededig i achrediad 17025 ISO.