Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddileu BVD yng Nghymru bellach wedi cau, ac rydym yn aros yn eiddgar am y canlyniad. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon ac yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddatblygiadau wrth iddynt gael eu cyhoeddi.

Lawnsiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Mehefin 2022 ar brofion gorfodol BVD i ddilyn llwyddiant rhaglen wirfoddol Gwaredu BVD, gyda’r nod o ddileu Dolur Rhydd Feirysol Buchol o Gymru unwaith ac am byth.

Mae crynodeb yr ymgynghoriad ar gael yma a bydd Llywodraeth Cymry yn ei ddiweddaru yn fuan.

Gallwch ail-wylio ein gweminar yma lle mae Stephen James a Dr Neil Paton yn ymuno â John Griffiths i drafod dileu BVD a chwestiynau cyffredin ar yr ymgynghoriad.

Os oes gyda chi cwesitynau ar BVD neu'r rhaglen wirfoddol, cysylltwch â thîm Gwaredu BVD.

Pam roedd ymgynghoriad wedi digwydd? 

Roedd Ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru wedi digwydd i gasglu barn y diwydiant ar ddeddfwriaeth arfaethedig ar ddileu BVD yng Nghymru. Dyma'ch cyfle i ddweud eich dweud ac i helpu i lunio dyfodol amaethyddiaeth Cymru. 

Cynigir y bydd y ddeddfwriaeth yn disodli rhaglen wirfoddol Gwaredu BVD sy'n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2022. 

Ers 2017, mae dros 9,000 o'r tua 11,000 (83%) o ffermydd Gwartheg Cymru wedi cymryd rhan yn rhaglen wirfoddol Gwaredu BVD ac mae 940 o ffermydd wedi ymwneud â Helfa PI, gan nodi 953 o anifeiliaid PI. Mae'r ymgysylltiad hwn â'r rhaglen gan ffermwyr gwartheg yn profi awydd cyffredinol y diwydiant i ddileu BVD o'r fuches genedlaethol. Bydd deddfwriaeth yn helpu i sicrhau na all ffermydd sydd â'r clefyd ail-heintio ffermydd heb BVD a bydd yn diogelu'r diwydiant yn ei gyfanrwydd. 

Pe bai deddfwriaeth yn cael ei phasio, byddai'n golygu y bydd Cymru'n ymuno â llawer o'i chymdogion Ewropeaidd i weithio tuag at fod yn rhydd o BVD. Bydd dileu BVD o ffermydd gwartheg Cymru yn gwella enw da ac yn cefnogi masnachu byd-eang ffermio yng Nghymru. 

 

A map showing the different BVD control measure across Europe.

 

Beth fydd yn ei olygu i Ffermwyr?

Bydd manylion terfynol y ddeddfwriaeth yn dibynnu ar yr ymgynghoriad ac felly mae'r wybodaeth isod yn seiliedig ar argymhellion Gwaredu BVD i Lywodraeth Cymru, sy'n destun newid.

Os bydd yn llwyddiannus, bydd y ddeddfwriaeth yn golygu y bydd yn rhaid i bob fferm wartheg yng Nghymru sgrinio eu buches bob blwyddyn am BVD. 

Mae Gwaredu BVD wedi argymell bod y ddeddfwriaeth yn dilyn dull profi stoc ifanc y rhaglen wirfoddol. Defnyddir pum prawf gwaed o anifeiliaid heb eu brechu rhwng 9 a 18 mis oed i brofi am bresenoldeb gwrthgyrff sy'n dangos a yw fferm yn debygol o fod â BVD ai peidio.  Mae'n debygol y bydd cost sgrinio yn cael ei phennu gan bob milfeddyg.

Mae Gwaredu BVD wedi argymell na all unrhyw anifail symud o fuches oni bai bod y fuches honno wedi profi’n negyddol neu fod anifeiliaid unigol yn profi’n negyddol am y firws (nad ydynt yn anifeiliaid PI). Bydd hyn yn helpu i atal y clefyd rhag lledaenu.

Ar gyfer ffermydd sy'n profi'n bositif, mae'n bosibl y bydd angen i bob anifail gael prawf firws hyd yn oed os nad oes gan y fferm unrhyw fwriad i symud yr anifeiliaid ac eithrio i'w lladd. Efallai y bydd angen cofnodi hyn ynghyd â mesurau priodol eraill mewn Cynllun Iechyd i’r Fuches. 

 

Beth fydd yn digwydd i Gwaredu BVD ac a fydd fy statws Gwaredu BVD yn parhau?

Mae rhaglen wirfoddol Gwaredu BVD gyda phrofion am ddim yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2022 ac mae'r ddeddfwriaeth yn bwriadu disodli'r cynllun gwirfoddol hwn â chynllun parhaol, gorfodol. Bydd manylion terfynol y ddeddfwriaeth yn dibynnu ar yr ymgynghoriad.

Mae'r ddeddfwriaeth arfaethedig yn argymell bod statws buches yn parhau ond bydd hyn yn cael ei bennu gan ganlyniad yr ymgynghoriad.

 

Deall eich statws BVD presennol a'ch camau nesaf

Wedi'i sgrinio yn 2022 yn barod?

  • Negyddol - Gwych mae gennych statws cyfredol ac rydych yn glir o BVD, does dim angen i chi wneud unrhyw beth arall. Cofiwch gynnal bioddiogelwch a rhannu eich statws wrth werthu.
  • Positif - Gall BVD fod yn weithredol ar eich fferm. Siaradwch â'ch milfeddyg ac ewch ati i gynnal helfa PI os argymhellir hynny. Mae gan Gwaredu BVD hyd at £1000 + TAW o gyllid ar gael tuag at gostau profi tan 31 Rhagfyr 2022. Y cynharaf y byddwch yn dechrau profi, gorau oll yw'r siawns sydd gennych o gwblhau'r Helfa PI cyn i ddeddfwriaeth ddod i rym. 

I gael rhagor o wybodaeth am ystyr eich canlyniadau, cliciwch yma.

 

Heb sgrinio eto eleni?

Cofiwch wneud hynny yn eich prawf TB blynyddol y flwyddyn yma neu os ydych wedi anghofio neu methu'r cyfle hwn gofynnwch i'ch milfeddyg gynnal prawf sgrinio stoc ifanc y tro nesaf y bydd ar eich fferm.

 

Erioed wedi sgrinio gyda Gwaredu BVD?

Cysylltwch â'ch milfeddyg i drefnu sgrin stoc ifanc am ddim. Gellir dod o hyd i feini prawf anifeiliaid cymwys yma.

Mae'n bwysig bod gennych statws cyfredol (llai na 12 mis oed). Gan fod Gwaredu BVD wedi argymell y bydd deddfwriaeth yn seiliedig ar y canlyniadau a dderbyniwyd yn 2022

 

COFIWCH: NAD YR ANIFEILIAID SY’N PROFI’N BOSITIF (am wrthgyrff) AR EICH SGRIN STOC IFANC YW’R RHAI SY’N LLEDAENU’R AFIECHYD. MAEN NHW WEDI BOD MEWN CYSYLLTIAD Â’R FEIRWS. NID OES ANGEN SYMUD RHAIN O'CH BUCHES.

 

A allaf ddweud fy marn/ymateb i'r ymgynghoriad? 

Casglodd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru barn y diwydiant am 8 wythnos a daeth i ben ar 25 Awst, 2022, ac rydym yn aros yn eiddgar am y canlyniad. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon ac yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddatblygiadau wrth iddynt gael eu cyhoeddi.

 

Pryd y byddwn yn gwybod a yw deddfwriaeth yn dod? Beth sy'n digwydd ar ôl y cyfnod ymgynghori?

Cauodd yr ymgynghoriad ar 25 Awst, 2022.

Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn trafod y canlyniadau cyn cyhoeddi'r canlyniad yn gyhoeddus. Os bydd yn llwyddiannus, mae tîm Gwaredu BVD yn gobeithio y bydd deddfwriaeth yn dod i rym ar 1 Ionawr 2023, sy'n golygu dim bwlch rhwng y rhaglen wirfoddol a dechrau sgrinio gorfodol.

Bydd Gwaredu BVD yn rhannu unrhyw gynnydd a diweddariadau gyda'r diwydiant ar unwaith.