Drwy ddefnyddio’r ap Gwaredu BVD mae milfeddygon sy’n trafod materion bioddiogelwch ar ffermydd yn gallu cipio’r pwyntiau pwysig yn gyflym a chofnodi’r wybodaeth tra maent ar y fferm.
Bydd defnyddio’r ap yn sicrhau bod y prif bwyntiau yn ymwneud â bioddiogelwch ar y fferm yn cael eu cwmpasu a gellir monitro newidiadau o flwyddyn i flwyddyn.
Medrwch hefyd defyddio'r ap trwy'ch cyfrifiadur trwy logio i fewn fan hyn
Hysbysiad preifatrwydd a data:
Mae diogelu data yn ymwneud ag ymddiriedaeth ac mae eich ymddiriedaeth chi yn bwysig i ni. Felly, mae diogelu eich data personol, ei gasglu, ei brosesu a’i ddefnyddio mewn modd cyfreithlon yn bryder pwysig i ni. Er mwyn sicrhau eich bod chi’n teimlo’n ddiogel pan fyddwch chi’n defnyddio ein rhaglenni, rydym yn dilyn y darpariaethau cyfreithiol yn llym wrth brosesu eich data personol a hoffem roi gwybod i chi nawr sut rydym yn casglu ac yn defnyddio data.
Drwy ddefnyddio'r rhaglen, caiff eich data ei gasglu ac rydych chi’n cytuno i’r data gael ei gadw’n ddiogel gan Gwaredu BVD at ddiben y rhaglen. Mae gennych chi’r hawl i ofyn am gopi o’r data hwn neu i ofyn unrhyw gwestiynau mewn perthynas â’r data a gaiff ei gadw. Dylid gwneud hyn yn ysgrifenedig i: gwaredubvd@colegsirgar.ac.uk
Ni chaiff unrhyw ddata personol ei rannu ag unrhyw drydydd parti oni fydd yn ofynnol gwneud hynny yn gyfreithiol.
Mae’n bosibl y bydd data o’r rhaglen hon yn cael ei gyhoeddi, ond ni fydd eich gwybodaeth bersonol chi yn cael ei datgelu heb i chi gydsynio i hyn ymlaen llaw.
Ni fydd unrhyw ddata personol yn cael ei ddefnyddio mewn unrhyw ffordd heblaw at ddiben y rhaglen fel y nodir uchod.