Polisi defnyddio gwybodaeth breifat (GDPR)

Diweddarwyd ddiwethaf: 01/07/2020

Crynodeb:

Rydym yn parchu Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yr UE (GDPR) ac mae'r polisi hwn yn esbonio sut rydym yn casglu ac yn ymdrin ag unrhyw wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni. Ni fydd unrhyw dermau cyfreithiol cymhleth na darnau hir o destun annealladwy. Nid oes gennym unrhyw ddymuniad i'ch twyllo i gytuno i rywbeth y gallech fod yn ei ddifaru yn nes ymlaen.

Mae ein polisi yn ymdrin â

  • Pam ein bod yn gwerthfawrogi eich preifatrwydd
  • Sut rydym yn casglu gwybodaeth
  • Pa wybodaeth rydym yn ei dal
  • Ble rydym yn storio eich gwybodaeth
  • Ar gyfer beth rydym yn defnyddio eich gwybodaeth
  • Pwy sy'n gyfrifol am eich gwybodaeth yn ein cwmni
  • Pwy sy'n cael gweld gwybodaeth amdanoch chi
  • Y camau rydym yn eu cymryd i gadw eich gwybodaeth yn breifat
  • Sut i gwyno
  • Newidiadau i'r polisi

Pam ein bod yn gwerthfawrogi eich preifatrwydd

Rydym yn gwerthfawrogi eich preifatrwydd gymaint â'n gwybodaeth ni ein hunain, felly rydym yn ymrwymedig i gadw eich gwybodaeth bersonol a busnes yn ddiogel. Nid ydym yn gyfforddus gyda'r wybodaeth mae cwmnïau, llywodraethau, a sefydliadau eraill yn ei chadw ar ffeil, felly dim ond y lleiafswm posibl rydym yn ei ofyn amdano gan ein cwsmeriaid. Ni fyddwn byth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol am unrhyw reswm heblaw am y rheswm y rhoesoch y wybodaeth honno inni, ac ni fyddwn byth yn rhoi mynediad at y wybodaeth honno i unrhyw un oni bai ein bod yn cael ein gorfodi i wneud hynny yn ôl y gyfraith.

Sut rydym yn casglu gwybodaeth

Rydym yn gofyn am wybodaeth gyswllt gan gynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, a rhif ffôn, ar ein gwefan fel y gallwn ateb eich ymholiad.

Nid yw ein gwefan yn defnyddio cwcis na sgriptiau a gynlluniwyd i olrhain y gwefannau rydych chi'n ymweld â nhw. Dydyn ni ddim yn defnyddio dadansoddeg na botymau 'hoffi' neu 'rannu' cyfryngau cymdeithasol sydd hefyd yn adeiladu proffiliau o'ch gweithgaredd ar y rhyngrwyd.

Rydym yn casglu eich cyfeiriad e-bost pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer un o'n cylchlythyrau.

Rydym yn gofyn am fanylion eich cyfrif a'ch gwybodaeth gyswllt pan fyddwch yn llogi neu'n prynu rhywbeth gennym ni.

O bryd i'w gilydd, efallai y byddwn yn derbyn eich gwybodaeth gyswllt gan un o'n partneriaid. Os bydd hynny'n digwydd, byddwn yn ei diogelu yn yr un ffordd yn union â phe baech yn ei rhoi i ni'n uniongyrchol.

Pa wybodaeth rydym yn ei dal

  • Pan fyddwch yn cysylltu â ni dros e-bost neu drwy ein gwefan, rydym yn casglu eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, enw defnyddiwr cyfryngau cymdeithasol, a'r cwmni rydych chi'n gweithio iddo, os ydych chi wedi nodi hynny.
  • Os ydych chi'n cofrestru ar gyfer cylchlythyr, dim ond eich cyfeiriad e-bost rydym yn ei gasglu.
  • Pan fyddwch yn prynu rhywbeth oddi wrthym ni, rydym yn casglu eich enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, a chyfeiriad danfon.
  • Os oes gennych drefniant busnes gyda ni, rydym hefyd yn casglu enw eich busnes a'ch manylion banc ac yn cadw cofnodion o'r anfonebau y byddwn yn eu hanfon atoch a'r taliadau rydych yn eu gwneud.

Ble rydym yn storio eich gwybodaeth

Pan fyddwch yn cysylltu â ni dros e-bost neu drwy ein gwefan, rydym yn storio eich gwybodaeth yn ein meddalwedd Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM). Os byddwch yn cofrestru ar gyfer cylchlythyr, rydym yn storio eich cyfeiriad e-bost ar gyfer dosbarthu'r cylchlythyr.

Ar gyfer beth rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Weithiau rydym yn defnyddio eich gwybodaeth gyswllt i anfon manylion am ein cynnyrch a'n gwasanaethau atoch. Pan fyddwn yn gwneud hynny, mae'r opsiwn gennych i ddad-danysgrifio o'r cyswllt yma ac ni fyddwn yn eu hanfon atoch eto. Efallai y byddwn hefyd yn anfon e-bost neu yn eich ffonio am ein cynhyrchion a'n gwasanaethau, ond os dywedwch wrthym, fyddwn ni ddim yn cysylltu eto. Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i anfon anfonebau, cyfriflenni neu nodiadau atgoffa atoch.

Pwy sy'n gyfrifol am eich gwybodaeth yn ein cwmni

Tîm Gwaredu BVD sy'n gyfrifol am ddiogelwch eich gwybodaeth. Gallwch gysylltu â nhw os oes gennych unrhyw bryderon am y wybodaeth rydym yn ei storio.

Pwy sy'n cael gweld gwybodaeth amdanoch chi

Pan fyddwn ni'n storio gwybodaeth yn ein systemau ein hunain, dim ond y bobl angenrheidiol sydd â mynediad. Mae gan ein tîm rheoli fynediad at bopeth rydych wedi'i ddarparu, ond dim ond yr hyn sydd ei angen ar weithwyr unigol i wneud eu gwaith y mae ganddynt fynediad iddo.

Y camau rydym yn eu cymryd i gadw eich gwybodaeth yn breifat

Pan fyddwn yn storio eich gwybodaeth mewn gwasanaethau trydydd parti, rydym yn cyfyngu mynediad i bobl sydd ei angen yn unig.

Mae'r cyfrifiaduron a ddefnyddiwn i gyd wedi'u hamgryptio. Mae ein dyfeisiau symudol hefyd wedi eu diogelu.

Sut i gwyno

Rydym yn cymryd cwynion o ddifrif. Os oes gennych unrhyw reswm dros gwyno am y ffyrdd rydym yn ymdrin â'ch preifatrwydd, cysylltwch â gwaredubvd@colegsirgar.ac.uk.

Newidiadau i'r polisi

Os byddwn yn newid cynnwys y polisi hwn, bydd y newidiadau hynny yn weithredol yr eiliad y byddwn yn eu cyhoeddi ar ein gwefan.