Gwaredu BVD yng Nghymru – Y Cam Nesaf

22nd Dec 2022

Mae dros 9,300 (85%) o ffermydd gwartheg wedi sgrinio ar gyfer BVD drwy raglen wirfoddol Gwaredu BVD ers 2017. Mae 31 Rhagfyr 2022 yn nodi diwedd y cyfnod presennol o Sgrinio Stoc Ifanc am ddim a chyllid Helfa PI. 

 

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn Haf 2022 ar gyflwyno rhaglen waredu BVD orfodol, mae posibilrwydd y gallai profion BVD ddod yn orfodol. Rydym yn aros yn eiddgar am ganlyniad yr ymgynghoriad a phenderfyniad y Gweinidog ar hyn.

 

Felly, beth yw’r camau nesaf?

 

O 1 Ionawr 2023, bydd rhaglen gwaredu BVD Cymru yn cychwyn ar gyfnod newydd a bydd rhaid i ffermwyr dalu eu milfeddygon am unrhyw brofion a wneir - bydd y gost yn cael eu penderfynu gan practis eich milfeddyg.

 

Mae Gwaredu BVD yn argymell bod y diwydiant cyfan yn parhau i brofi eu buchesi er mwyn i ni barhau â’r gwaith dda o ddileu BVD o Gymru.

 

Pam ddylai Ffermwyr barhau i sgrinio ar gyfer BVD?

 

  • Er mwyn darganfod statws iechyd eu buches.
  • Er mwyn derbyn a chynnal tystysgrif Gwaredu BVD.
  • Er mwyn cefnogi a hyrwyddo prynu gwybodus yn ystod masnachu gwartheg.
  • Er mwyn cyfrannu at gael ardystiad gwarant fferm. 

 

Dylai milfeddygon sicrhau eu bod yn parhau i lenwi ffurflenni cyflwyno Gwaredu BVD a'u rhannu ynghyd â’r canlyniadau efo Gwaredu BVD er mwyn sicrhau bod ffermwyr yn derbyn tystysgrifau Gwaredu BVD, os yw'r canlyniadau'n negyddol.

 

Dywedodd John Griffiths, Rheolwr y rhaglen Gwaredu BVD:

 

“Ar ran tîm Gwaredu BVD a’n bartneriaid, hoffem ddiolch i bawb am eich cefnogaeth yn ystod y cyfnod gwirfoddol ac am eich ymdrech barhaus i waredu BVD o Gymru. 

Rydym yn annog chi yn gryf i barhau i sgrinio yn  2023, a lle mae angen, parhau i Helfa PI er mwyn sicrhau eich bod chi yn y sefyllfa orau pe bai deddfwriaeth yn cael ei deddfu.”

 

Bydd tîm Gwaredu BVD yn parhau i fod ar gael i'ch cefnogi gyda'ch holl ymholiadau BVD tan o leiaf 31 Mawrth 2023. Bydd swyddfa Gwaredu BVD ar gau o 23 Rhagfyr am y gyfnod Nadolig, ond bydd pob ymholiad yn cael ei ateb ar ôl dychwelyd.

 

Hoffwn ddymuno Nadolig Llawen i chi ac edrychwn ymlaen i weithio gyda chi yn y Flwyddyn Newydd.