Byddwch yn hyderus o ran BVD wrth brynu a gwerthu gwartheg

9th Nov 2022

Fel prynwr, byddwch am wybod bod gennych chi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud penderfyniad gwybodus i brynu’r gwartheg gorau posibl. Fel gwerthwr, bydd angen i chi godi safon eich buches a dangos iechyd a chynhyrchiant eich buches.

Drwy ddeall a rhannu statws BVD diweddaraf, gall gwerthwyr ddangos eu bod yn profi am BVD a bod eu buches yn negyddol. Gall prynwyr fod yn sicr eu bod yn prynu anifeiliaid sydd heb BVD, gan sicrhau bod y fuches yn iach yn gyffredinol.

 

Wrth brynu gwartheg, beth ddylech chi edrych amdano?

 

  • A yw'r gwerthwr yn gwybod beth yw eu statws BVD?

Rhoddir tystysgrif Gwaredu BVD ar ôl i fuches sgrinio’n negyddol ar gyfer BVD.

Caiff gwerthwyr eu hannog i arddangos eu tystysgrif er mwyn gwneud eu statws yn hysbys mewn catalogau. Os nag yw’r statws BVD ar gael i chi ei weld, gofynnwch i’r gwerthwr am eu statws a’u tystysgrif BVD diweddaraf.

 

  • Yw eu statws BVD yn hen?

Mae tystysgrif Gwaredu BVD yn rhedeg allan ar ôl blwyddyn. Os yw’r gwerthwr yn dangos tystysgrif sy’n hŷn na hyn, mae statws BVD y fuches yn hen felly mae’n bosibl bod BVD yn bresennol ar y fferm.

Gwiriwch y dyddiad ar y dystysgrif maen nhw'n ei rhannu.

 

  • Aur, Arian neu Efydd?

Dylai ffermwyr brofi am BVD yn flynyddol. Mae tystysgrifau Efydd, Arian ac Aur Gwaredu BVD yn helpu i ddangos am ba mor hir y mae buchesi wedi sgrinio’n negyddol.

 

Er enghraifft:

 

Tystysgrifau Efydd

Gellir dyfarnu tystysgrif efydd ar ôl un canlyniad sgrinio negyddol. Dim ond o fewn 12 mis o gael prawf gwirioneddol y rhoddir tystysgrifau.

Tystysgrif Arian

Gellir dyfarnu tystysgrifau i ffermydd sydd wedi sgrinio'n glir am ddwy flynedd yn olynol.

Tystysgrif Aur

Dyfernir tystysgrifau i ffermydd sydd wedi sgrinio’n glir am dair blynedd yn olynol.

 

Os oes angen copi arall o’ch tystysgrif Gwaredu BVD arnoch, cysylltwch â thîm Gwaredu BVD yma.

Os nad ydych wedi sgrinio ar gyfer BVD eleni - gwnewch yn siŵr eich bod chi’n manteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer sgrinio a helfa PI tan 31 Rhagfyr 2022.  Siaradwch â’ch milfeddyg heddiw, neu cysylltwch â’r tîm Gwaredu BVD am fwy o wybodaeth.