
“Fy neges i yw – gweithredwch nawr, peidiwch ag aros.”
12th Aug 2022Stephen James yw Cadeirydd y Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid yng Nghymru ac mae’n ffarmwr gwartheg, gyda thua 370 o wartheg godro.
Siaradodd Stephen â ni am ei brofiad o BVD a pham ei fod yn annog ffermwyr eraill i brofi a delio â’r clefyd cyn gynted â phosibl.
“Un o’r problemau rydyn ni wedi’u cael dros y blynyddoedd yw TB. O ran BVD, o ran ein fferm ni, ni ddaeth i’r amlwg i ddechrau. Gwelsom rai diffygion a'n milfeddyg lleol a awgrymodd y gallai BVD fod yn broblem, felly dechreuasom frechu ac ar unwaith gwelsom welliant yn iechyd y gwartheg. Nawr rwy'n gwybod mai BVD oedd yn chwarae rhan fawr yn hynny.
Nid yw pawb yn sylweddoli'r budd o gael gwared ar BVD ar fferm. Nid yw’n budd ariannol yn unig, gall iechyd y fuches gyfan gael ei effeithio. Y clefyd sylfaenol i ni oedd BVD. Mae’n glefyd y gallwn gael gwared arno ac felly dylem i gyd fod yn anelu at wneud hynny.
Ar ôl i'n milfeddyg awgrymu samplo gwaed, roedd ein canlyniadau'n dangos positif ar ein fferm. Fe wnaethom sgrinio meinwe pob llo a anwyd ar y pryd ac, ond er gwaethaf ceisio, ni ddaethom o hyd i’r PI ar y fferm mewn gwirionedd. Ond fe wnaethom barhau i sgrinio bob blwyddyn a gwelsom wir welliant yn iechyd y fuches. Ar hyn o bryd mae gennym ni statws efydd Gwaredu BVD.
Efallai nad yw’n dasg hawdd dod o hyd i’r PI, ond y neges allweddol mewn gwirionedd yw mai nawr yw’r amser i sgrinio ac Helfa PI os yw eich milfeddyg yn ei argymell oherwydd bod amser o hyd ar gyfer cefnogaeth a chymorth ariannol trwy raglen Gwaredu BVD, ond nid am lawer hirach. Fe gymerodd ychydig o amser i ni, felly os nad ydych chi wedi dechrau eto neu os ydych chi wedi methu sgrinio yn ddiweddar, byddwn i wir yn argymell eich bod chi'n ei wneud nawr.
Mae’n ddiddorol gweld sut mae gweddill y DU yn perfformio a sut maen nhw’n delio â BVD. Rwy'n meddwl y byddai symud ymlaen i ddeddfwriaeth yn gam cadarnhaol i ni yng Nghymru. Mae hefyd yn ein symud yn nes at rai o'r cenhedloedd eraill sydd yn gwneud yn dda iawn i ddileu'r afiechyd, yn bendant mae momentwm cyfunol. Mae’r rhaglen ddileu wirfoddol trwy Gwaredu BVD wedi bod yn llwyddiannus iawn, ond nid yw 100% o fferwyr yn cymryd rhan a hyd nes y bydd 100% o ffermwyr, ni fyddwn byth yn gallu bod yn rhydd o BVD."
Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar agor tan 25/08/22. Dweud eich dweud yma: https://llyw.cymru/cynllun-gorfodol-dolur-rhydd-feirysol-buchol