
Ymgynghoriad cyhoeddus ar agor i gasglu barn y diwydiant ar ddeddfwriaeth bosibl i ddileu BVD o Gymru
30th Jun 2022Mae’r ddeddfwriaeth bosibl yn adeiladu ar waith rhaglen Gwaredu BVD i barhau i ddileu Dolur Rhydd Feirysol Buchol (BVD) o Gymru ac i ddiogelu’r enillion a wneir gan y rhaglen wirfoddol, a ddaw i ben eleni gyda Sgrinio Stoc Ifanc a Hlefa PI (Wedi'i Heintio'n Barhaol) am ddim yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2022.
Mae Gwaredu BVD yn rhaglen a arweinir gan y diwydiant sydd wedi cynnig cyllid Sgrinio Stoc Ifanc a Helfa PI am ddim i ffermwyr yng Nghymru ers 2017. Mae dros 9,000 o’r tua 11,000 o ffermydd Gwartheg Cymreig (83%) yng Nghymru yn ymwybodol o’u statws BVD ac yn gweithio tuag at ddileu’r clefyd yng Nghymru. Mae’r gyfradd hon yn profi awydd y diwydiant i ddileu BVD o’r fuches genedlaethol. Bydd deddfwriaeth yn helpu i sicrhau bod yr 17% sy'n weddill yn cymryd rhan gan atal ail-heintio buchesi glân.
Pe bai deddfwriaeth yn cael ei phasio, mae’n golygu y bydd Cymru’n ymuno â’r Alban ac Iwerddon i weithio tuag at ryddid BVD. Bydd dileu BVD o ffermydd gwartheg Cymru yn gwella iechyd, lles a chynhyrchiant ar ffermydd unigol ac yn gwella enw da ffermio Cymreig yn fyd-eang.
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths:
“Byddwn yn annog ceidwaid gwartheg a phawb sydd â diddordeb yn y diwydiannau llaeth a chig eidion i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn. Mae gennym eisoes nifer uchel iawn o bobl yn manteisio ar y cynllun BVD gwirfoddol yng Nghymru, a'r cam nesaf i ddileu'r clefyd hwn yn llwyr yma yw ystyried gwneud y cynllun yn orfodol.
“O ganlyniad i'r nifer uchel sy'n manteisio ar y cynllun gwirfoddol, bydd llawer o geidwaid gwartheg yn gyfarwydd â’r gofynion profi.
“Bydd dileu'r clefyd yn gwella iechyd a lles anifeiliaid ac yn gwella cynhyrchiant ar y fferm.”
Dywedodd John Griffiths, Rheolwr Rhaglen Gwaredu BVD:
“Byddai’n wych gweld yr enillion rydym wedi’u gwneud mewn partneriaeth â’r diwydiant, undebau a ffermwyr ledled Cymru yn cael eu cadw gyda deddfwriaeth wrth i’r rhaglen wirfoddol ddod i ben.
Hyd nes y byddwn i gyd yn uno ac yn cymryd rhan mewn dileu BVD o'n ffermydd, bydd y feirws yn parhau i ledaenu trwy doriadau bioddiogelwch, gan gyflwyno haint i fuchesi glân.
Rydym yn annog unrhyw ffermwr nad yw eisoes wedi manteisio ar brofion am ddim a chyllid PI Hunt i wneud hynny cyn diwedd y flwyddyn. Siaradwch â’ch milfeddyg am brofion BVD cyn ei bod hi’n rhy hwyr.”
Bydd Gwaredu BVD yn cynnal geminar briffio ar 6 Gorffennaf 2022. Bydd cyfle i filfeddygon a ffermwyr ofyn cwestiynau a thrafod y ddeddfwriaeth bosibl.
I gael rhagor o wybodaeth am y ddeddfwriaeth bosibl ewch i https://llyw.cymru/cynllun-gorfodol-dolur-rhydd-feirysol-buchol. Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar y ddeddfwriaeth tan 25 Awst, 2022.