"Ewch amdani a manteisiwch ar yr hyn sydd ar gael. Wnewch chi ddim difaru."
24th May 2022Mae Sunny Hill Farm yn fferm laeth 300 erw organig yng nghanol Sir Benfro sydd â buches gaeedig o 115 o wartheg. Maen nhw’n ffermio Holstein Friesian pedigri ynghyd â dilynwyr ac eidion. Fe wnaethon nhw osod peiriant gwerthu llaeth ar y fferm ym mis Awst 2021 a oedd yn cynnwys ychwanegu uned basteureiddio
Mae Mr a Mrs Peters yn cael cymorth gan eu merch Annie sydd ar hyn o bryd yn fyfyrwraig yng Ngholeg Gelli Aur. Mae'n treulio bob munud sbâr pan nad yw hi yn y coleg nac yn astudio yn helpu ar y fferm i reoli'r fuches a phrosesu'r llaeth a hi hefyd sy’n delio â'r holl farchnata ar y cyfryngau cymdeithasol.
Fe wnaethon ni gael sgwrs gyda'r teulu i drafod popeth BVD, gan gynnwys profi, a manteisio ar gymorth am ddim.
Ydych chi wedi cael unrhyw broblemau gyda BVD?
Na, dydyn ni ddim wedi cael unrhyw broblemau BVD yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rydyn ni’n brechu ein holl wartheg a heffrod bob blwyddyn ac mae cael buches gaeedig yn golygu nad ydyn ni’n prynu problemau.
Dywedwch wrthym ni am eich profiad o ddefnyddio cynllun Gwaredu BVD i sgrinio.
Rydyn ni’n cymryd sampl gwaed o heffrod 5 oed nad ydyn nhw wedi cael y brechiad BVD pan fyddwn yn profi am TB. Mae’n hawdd iawn ei brofi, gan mai dim ond sampl gwaed arall ydyw ac fe gaiff ei gymryd pan fydd yr anifail yn y wasgfa wartheg, pan fydd yn cael ei brofi am TB.
Rydych chi nawr â statws Arian – a fyddwch chi'n sgrinio eto'n fuan?
Byddwn, byddwn ni’n profi am BVD yn ystod ein prawf TB nesaf.
Pa mor bwysig yw hi bod ffermwyr yn sgrinio eu buches am BVD?
Mae'n bwysig iawn gwybod eich statws BVD a sicrhau nad oes unrhyw PI (Anifeiliaid sydd wedi'u Heintio'n Barhaus) gan y bydd anifail PI yn lledaenu BVD i anifeiliaid eraill yn y fuches.
Pa mor bwysig yw hi bod ffermwyr yn rhannu eu statws BVD wrth werthu?
Gan ein bod yn fuches gaeedig, dydyn ni ddim yn prynu anifeiliaid i mewn. Ond, tasen ni yn prynu stoc, bydden ni’n bendant yn gofyn am eu statws BVD cyn inni brynu. Mae bob amser yn fwy diogel holi cyn i chi brynu.
Fyddech chi’n cynghori pobl i fanteisio ar y cynllun cyn iddo ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2022?
Bydden, bydden ni’n bendant yn cynghori manteisio ar y cynllun cyn iddo ddod i ben. Does dim i'w golli. Ewch amdani a manteisiwch ar yr hyn sydd ar gael. Wnewch chi ddim difaru.
—
Mae dros 80% o ffermwyr Gwartheg Cymru eisoes wedi cymryd rhan yn rhaglen wirfoddol Gwaredu BVD. Ydych chi’n un o’r ffermwyr hynny sydd dal heb sgrinio eto? Cysylltwch â Gwaredu BVD neu eich milfeddyg i fanteisio ar Sgrinio Stoc Ifanc am ddim a chyllid ar gyfer Helfa PI cyn iddo ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2022.