“Mae mor bwysig ein bod yn manteisio ar y cyfle hwn.”

19th Jan 2022

Ar ôl i'w buches gael canlyniadau sgrinio clir ar gyfer BVD, cafodd y milfeddyg a'r ffermwr yma o dde Cymru syndod pan ddangosodd eu profion sgrinio blynyddol nesaf ganlyniadau diddorol. Beth oedd yr achos? Ar ôl prynu buwch cyflo mewn mart, a roddodd enedigaeth i anifail PI, dechreuodd y feirws ledaenu. 

Gall dod o hyd i anifail sydd wedi'i Heintio'n Barhaus (PI) ar eich fferm fod yn hynod ddigalon a rhwystredig.  Mae BVD yn glefyd costus ac er bod y risgiau’n hysbys, mae gwaith i’w wneud o hyd i sicrhau bod y clefyd yn cael ei ddileu unwaith ac am byth.

Gyda phrofiad uniongyrchol o ddefnyddio'r cymorth ariannol sydd ar gael trwy'r rhaglen Gwaredu BVD, mae'r ffermwr hwn wedi cynnal Sgrinio Stoc Ifanc a Helfa PI dros y tair blynedd diwethaf.  Yn ystod y cyfnod hwn, mae tri achos o PI wedi’u nodi – un o brynu gwartheg yn y Mart, a dau arall a aned y flwyddyn ganlynol.  Trwy eu profiad eu hunain, maent yn rhannu eu barn ar pam ei bod yn bwysig cynnal profion yn rheolaidd, gweithredu ar unwaith i atal y risg o haint pellach a gweithio ochr yn ochr â milfeddygon i helpu i gael gwared ar y clefyd.

C:  Pa gefnogaeth ydych chi wedi'i chael gan Gwaredu BVD hyd yn hyn?

A:  Rwyf wedi cael cefnogaeth wych ac wedi bod yn profi’n flynyddol am y 4 blynedd diwethaf.  Mae'r sgrinio wedi arwain at 3 blynedd o hela PI ac yn ystod yr amser rwyf wedi dod o hyd i 3 anifail PI. 

C:  Beth oedd yr arwyddion wnaeth beri i chi amau bod BVD yn bresennol ar eich fferm a sut wnaethoch chi ddefnyddio’r rhaglen Gwaredu BVD i fynd i’r afael ag ef?

A:  Roedd fy ngwartheg yn cael eu profi am TB a doedd un o’r lloi ddim yn edrych yn dda iawn.  Felly fe wnaethom gymryd prawf gwaed a'i nodi fel PI.  Cefais y canlyniadau yn ôl yn gyflym iawn ac yna gwnes i helfa PI ar weddill y lloi o'r grŵp hwnnw.  Ers hynny, rydw i'n tagio ac yn gwirio pob llo wrth iddo gael ei eni ac rydw i hefyd yn tagio ac yn gwirio unrhyw lo rydw i’n ei brynu.

C:  Sut brofiad oedd y broses Hela PI gan ddefnyddio Gwaredu BVD?

A:  Roedd y broses yn wych a daeth y canlyniadau yn ôl yn gyflym. Roedd yn wych.

C:  A allech nodi sut y daeth yr anifail heintiedig i fod yn bresennol ar eich fferm?

A:  Gallwn. Daeth y PI i mewn i'm fferm fel llo trojan o fuwch gyflo yr oeddwn wedi'i phrynu mewn arwerthiant mart gwartheg.  Yn ddiddorol, fel milfeddyg roeddwn wedi bod yn cynnal profion BVD ar y fuches y daeth ohoni am nifer o flynyddoedd ac yn gwybod bod y fuches yn glir o'r clefyd cyn iddynt fynd ar werth.  Fodd bynnag, doeddwn i ddim wedi ystyried y gellid bod wedi codi BVD yn ystod y symud rhwng ffermydd a dyna'r risg roeddwn i wedi anghofio amdano. Roedd y fuwch a’i llo wedi codi BVD yn y mart - a gan fod y fuwch yn feichiog, tua 3 mis, roedd hyn yn union ar yr adeg iawn lle byddai wedi bod yn agored i ddal y clefyd.

Rwy’n ceisio lleihau’r risg y bydd BVD yn bresennol ar fy fferm, felly dydw i ddim yn prynu buchod ar hyn o bryd ac mae unrhyw loi sy’n cyrraedd bob amser yn cael eu tagio a’u profi wrth iddynt gyrraedd.  Dim ond cwpl o ddiwrnodau y mae’n ei gymryd i gael y canlyniadau, felly dylech aros i weld statws y llo cyn i chi ei ollwng ymhlith y brif fuches.

C:  Pa mor gostus oedd hi i chi ar ôl darganfod bod anifeiliaid PI yn bresennol ar eich fferm?

A:  Mae'n debyg i mi golli tua £2000-£3000 oherwydd bod gen i anifeiliaid PI.  Rwy’n meddwl y byddai wedi costio mwy i mi pe bawn i heb dagio a gwirio ar ôl y flwyddyn gyntaf o brofi, oherwydd byddai dau o’r anifeiliaid PI wedi mynd ymlaen i heintio eraill hefyd.  Wnes i’n siŵr hefyd fod fy ngwartheg yn cael eu brechu’n gyflym iawn.

C:  Fel ffermwr, sut oeddech chi’n teimlo pan wnaethoch chi ddarganfod bod anifeiliaid PI ar eich fferm?

A:  Mae'n rhywbeth ysgytwol iawn pan nad ydych chi'n ei ddisgwyl.  Roedd yn ddychrynllyd oherwydd roeddwn yn gwybod bod y llo PI hwn wedi bod yn rhedeg ynghanol fy muchod cyflo ac roeddwn yn poeni beth oedd y tu mewn i'r buchod am y flwyddyn nesaf.  Roedd fy un llo PI wedi arwain at eni dau lo PI arall.

C:  Mae Gwaredu BVD wedi bod yn rhoi tystysgrifau i ffermwyr sydd wedi sgrinio’n glir am y clefyd ac mae hefyd yn annog ffermwyr i ddangos eu statws BVD wrth werthu eu gwartheg.  A yw hyn yn rhywbeth yr ydych yn chwilio amdano ac yn ei wneud eich hun?

A:  Pan gefais statws yn glir o BVD gan Gwaredu yn y flwyddyn gyntaf, roeddwn i'n arfer dangos fy statws pan oeddwn yn gwerthu yn y Martau.  Ond ers i mi golli fy statws oherwydd ein bod wedi darganfod anifeiliaid PI, rwy'n gwneud yn siŵr fy mod yn dal i roi ar gatalog y Mart bod pob llo sy'n cael ei werthu wedi cael darlleniad negyddol a'i fod wedi’i dagio a'i brofi.  Mae hyn er mwyn sicrhau bod prynwyr yn gwybod bod y llo yn glir o'r afiechyd.

Fel milfeddyg, rwy’n mynd o gwmpas gwahanol ffermydd ac rwy’n gwybod pwy sy’n glir a phwy sydd ddim yn fy ardal.  Rwy'n gwneud fy niwydrwydd dyladwy ac rwy’n hoffi gwirio.  Rwy’n dal i dagio a phrofi popeth rwy’n ei brynu dim ond i wneud yn siŵr nad wyf yn dod ag unrhyw PI i fy fferm.

C:  Yn eich barn chi, beth yw'r heriau mwyaf y mae Cymru'n eu hwynebu o ran dileu BVD?

A:  Mae angen newid meddylfryd y Marts.  Mae angen i ffermwyr hefyd fod yn fodlon tagio a gwirio, a sicrhau eu bod yn cael gwared ar eu hanifeiliaid PI.

C:  O safbwynt milfeddyg, a yw’n heriol cael ffermwyr i gymryd rhan yn rhaglen sgrinio stoc ifanc Gwaredu BVD?

A:  Yn bersonol, nid yw'n heriol i mi oherwydd byddaf yn dweud wrth fy nghleient ein bod yn profi a dyna ddiwedd arni!  Dim ond mater o gymryd 5 prawf gwaed yn ystod prawf TB ac mae'r anifeiliaid eisoes yn y wasgfa.  Rwy’n meddwl ei bod mor bwysig bod pob un ohonom fel milfeddygon yn chwarae ein rhan.  Mae mor bwysig ein bod yn manteisio i’r eithaf ar y cyfle hwn.

C:  Pa mor bwysig yw hi i chi sgrinio'n flynyddol?  Pa neges fyddech chi’n ei rhoi i ffermwyr sydd ddim wedi sgrinio eto?

A:  Peidiwch â meddwl ddwywaith am y peth!  Alla i ddim gweld unrhyw reswm i beidio â sgrinio.  Meddyliwch am y manteision y gallent eu cael o wybod beth yw eu statws BVD.  Mae'n rhad ac am ddim i'w wneud ac os yw'r fuches yn glir yna mae hynny'n fonws enfawr.  Os na, yna mae amser o hyd i wneud rhywbeth am y peth tra bod cyllid yn dal i fod ar gael.  Profi ydy’r peth gorau. 

C:  Pam ddylai ffermwyr barhau i gynnal profion yn flynyddol?

A:  Mae ffermydd mewn perygl gwirioneddol os nad ydyn nhw'n profi'n flynyddol a bod BVD yn dod yn bresennol.  Bydd ffermwyr yn yr un sefyllfa ag yr oeddwn ynddi a gallai greu llanast.  Rydym yn gweld problemau go iawn pan fydd anifail heintiedig yn cael ei gyflwyno i fuches naïf, lle nad oes imiwnedd na brechu wedi digwydd.

C:  Unrhyw beth arall cyn i ni ffarwelio?

A:  Ffermwyr – byddwch yn ofalus wrth brynu a gwnewch yn siŵr eich bod yn monitro eich buchesi. Os ydych chi'n dod o hyd i broblem, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud helfa PI cyn gynted ag y gallwch i ddarganfod beth sy'n digwydd.