
"Mae popeth yn well nawr."
10th Dec 2021
Buom yn siarad yn ddiweddar gyda’r ffermwr defaid a chig eidion, Mr Jones, am ei brofiad o waredu Dolur Rhydd Feirysol y Gwartheg (BVD) ar ei fferm yng ngogledd Cymru.
Ar hyn o bryd, nid yw profi eich buchesi am BVD yn ofyniad cyfreithriol ond mae gwaredu BVD yn flaenoriaeth i Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru ac yn derbyn arian gan raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru. Nid oedd Mr Jones wedi ystyried gwneud profion nes i’w filfeddyg ei gynghori i wneud ac yn dilyn prawf positif ar dda byw ifanc dechreuodd Helfa PI.
“Y milfeddyg awgrymodd gwneud y prawf gyda chymorth ariannol gan Gwaredu BVD – felly fe wnaethom hynny ar y lloi ifanc a’r heffrod gwag. Ni ddaeth unrhyw beth i fyny efo’r rhai cyntaf. Ond y flwyddyn ganlynol daeth un llo yn ôl fel PI felly fe brofwyd y fam ac roedd hithau’n bositif.”
Mae BVD yn glefyd feiral sy’n achosi methiant gwrthimiwnedd a phroblemau atgenhedlu. Mae’r clefyd yn lleihau ffrwythlondeb, cynyddu achosion o erthylu ac yn achosi niwmonia mewn da byw a effeithir, sy’n creu effaith ddrastig, hir dymor, yn bersonol ac ariannol, i ffermydd sydd wedi’u heffeithio.
“Cawsant scours, niwmonia, erthyliadau... doedden ni ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd. Gwnaethom brofion ar y teirw a’r mwynau. Ni wyddwn llawer am BVD. Roeddem yn chwistrellu yn erbyn BVD ond nid oedd yn helpu’r PI.”
Gyda rhai achosion mae’n anodd adnabod symptomau i ddechrau ond roedd Mr Jones yn gwybod bod rhywbeth o’i le.
“Roedd y lloi yn wael – gallwn weld y gwahaniaeth ynddynt – doedden nhw ddim yn datblygu o gwbl.”
Mae BVD yn bodoli ac yn lledaenu ym mhresenoldeb anifeiliaid sydd wedi’u heintio’n barhaus (PI).
Lloi ydy’r rhain sydd wedi’u heintio gan y feirws BVD yn ystod beichiogaeth. Ni fyddant byth yn cael gwared ohonno a byddant yn ei ledaenu drwy gydol eu bywydau. Gallant fyw am nifer o flynyddoedd ac effeithio ar yr holl fuchesi sydd gyda nhw. Derbyniodd Mr Jones gymorth ariannol gan Gwaredu BVD i ddarganfod yr anifeiliad PI yn ei feddiant.
“Mae popeth yn well. Costau meddyginiaeth a milfeddygon yn llawer llai. Roedden ni’n defnyddio llawer o Synulox Bonus ond erbyn hyn, dim ond tri rydym wedi defnyddio yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Nid ydym yn brechu yn erbyn niwmonia rhagor, does dim angen, ac mae’r canlyniadau sganio diweddaraf yn wych, gyda 63 allan o 64 yn feichiog.”
Mae Mr Jones yn gofyn am y statws BVD cyn prynu bob tro erbyn hyn.
“Roedd yr achos cyntaf yma yn heffer gyda llo a brynwyd. Dydy’r ffarm laeth lle ddaeth heb gael unrhyw broblemau o gwbl. Rydym wedi cael buchod eraill ganddynt ac roedden nhw’n iawn. Rydym yn gofyn am y statws BVD cyn prynu rwan – mae’n saffach gwybod beth sy’n dod i mewn.”
Mae cymorth ariannol hyd at £1000 +TAW ar gael i brofi anifeiliad sydd wedi dangos canlyniadau positif er mwyn cynnal Helfa PI. Mae’r arian hwn ar gael tan Rhagfyr 31, 2022.
“Rydym wedi derbyn £400 gan y milfeddyg, ac maent hefyd yn ceisio trefnu £500 ychwanegol. Mae gwneud y prawf yn hawdd. Dydy ffermwyr ddim yn siarad am y peth rhyw lawer. Gwnewch y prawf – ewch amdani!”