** RYDYN NI'N LLOGI! **
22nd Jul 2020Mae Bwrdd Cyfarwyddwyr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ymrwymo i benodi'r staff gorau posibl sy'n cyflawni rhagoriaeth yn eu gwaith. Gan weithio i'r gwerthoedd a'r ymddygiadau sy'n tanategu cynllun strategol a busnes y sefydliad, mae'r Coleg yn ceisio staff sy'n arddangos creadigrwydd ac arloesedd, tra'n gyrru eu perfformiad eu hunain, a pherfformiad eraill, i ddarparu'r profiad a'r gwasanaeth gorau posibl i ddysgwyr.
Mae'r coleg am gyflogi dau Swyddog Technegol ar gyfer y Rhaglen Gwaredu BVD - Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru sydd wedi'i hariannu gan y Rhaglen Datblygu Gwledig (RDP). Nod cyffredinol y prosiect yw cyflwyno rhaglen Cymru gyfan a arweinir gan ddiwydiant i ddileu dolur rhydd feirysol buchol (BVD). Bydd hyn yn golygu cydlynu holl agweddau technegol y rhaglen gan gynnwys rheoli'r cyflenwad o ganlyniadau sampl o'r labordai, monitro lefelau cyfranogiad ffermwyr gyda'r rhaglen ac ateb cwestiynau ac ymholiadau oddi wrth ffermwyr ynghylch y rhaglen yn gyffredinol neu eu canlyniadau penodol.
Bydd y Swyddog Technegol yn aelod allweddol o'r tîm Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru. Yn ychwanegol i'r rolau a amlinellir uchod bydd dyletswyddau'n cynnwys cefnogi rheolwr y prosiect a'r arbenigwr technegol gyda chyfarfodydd wyneb yn wyneb â ffermwyr a digwyddiadau ynghyd â datblygiad parhaus y rhaglen.
i wneud cais, cliciwch yma.
Dyddiad cau: 29ain yn iau 2020. Pob lwc!