Arian ychwanegol ar gael o dan gynllun gwaredu BVD yng Nghymru

3rd Jul 2020

 

 

 

Yn dilyn gwaith ailbroffilio llwyddiannus ar y rhaglen Gwaredu BVD yng Nghymru ac ymgynghoriad gyda'r diwydiant amaeth, mae cyllid ychwanegol bellach ar gael i gefnogi Sgriniadau Stoc Ifanc a chanfod anifeiliaid sydd wedi'u heintio'n barhaus (chwiliad PI).

Fel menter a gaiff ei harwain gan y diwydiant, mae'r prif nod o waredu BVD o bob buches yng Nghymru yn parhau'n ddigyfnewid, gyda'r estyniad yn caniatáu amser ychwanegol i'r holl randdeiliaid baratoi ar gyfer newidiadau posibl mewn deddfwriaeth yn 2021.

Ers ei lansio yn 2017, mae'r Rhaglen Gwaredu BVD wedi sicrhau canlyniadau hynod lwyddiannus; gyda thros 8,300 o fuchesi yng Nghymru bellach yn rhan o'r rhaglen. Gyda chymorth ariannol ychwanegol nawr ar gael, mae Gwaredu BVD yn annog milfeddygon a ffermwyr i fanteisio ar y cyfle hwn.

Mae'r cyllid ar gyfer Sgrinio Stoc Ifanc wedi'i ymestyn o 31 Awst 2020 hyd at 31 Mawrth 2021, gyda chymorth ariannol ar gael ar gyfer chwiliadau PI hyd at ddiwedd 2022.

Gyda 78% o ffermydd yng Nghymru bellach yn rhydd o BVD, bydd arian ychwanegol yn galluogi milfeddygon i gynnal profion pellach – os oes angen – i ddiogelu'r gyfradd hon. Bydd y cynnydd hwn yn y gyfradd tâl ar gyfer y pedwerydd prawf yn ôl-weithredol o 27 Ebrill, 2020. Bydd unrhyw bedwerydd prawf a gynhelir cyn dyddiad yr estyniad (Medi 1af, 2020) yn cael ei anrhydeddu a'i dalu fel rhan o'r rhaglen estynedig.

Yn hanesyddol, mae pob buches sy'n profi'n bositif am BVD yn gymwys am un chwiliad PI ychwanegol wedi'i hariannu hyd at y swm o £500 + TAW drwy'r rhaglen Gwaredu BVD. 

Wedi'i halinio â'r estyniad Sgrinio Stoc Ifanc, mae cymorth ariannol ar gyfer chwiliad PI hefyd wedi'i ymestyn ac mae ar gael tan ddiwedd 2022. Bydd y rhaglen nawr yn cynnig cyllid ychwanegol hyd at £500 ar gyfer chwiliad PI, gan gynyddu'r cyfanswm sydd ar gael i £1000 + TAW. Mae'r holl arian ychwanegol ar gyfer chwiliadau PI wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio'n benodol ar gyfer costau samplu yn unig.

Yn ôl John Griffiths, Rheolwr Rhaglen Gwaredu BVD:

"Rydym yn falch iawn o allu cynnig cymorth pellach i filfeddygon i annog eu cleientiaid i sgrinio am BVD ac i roi amser ychwanegol i ffermwyr baratoi ar gyfer y dyfodol yn y cyfnod anodd hwn."

"Rydym yn annog parhad i'r profion BVD neu brofi am y tro cyntaf os nad yw pobl wedi gwneud hynny eisoes. Mae'r canlyniadau lles ac ariannol yn sylweddol, gydag amcangyfrif o £4,500 y flwyddyn ar gyfer y fuches eidion gyffredin, a £15,000 ar gyfer buchesi godro o ganlyniad i ffrwythlondeb gwael, cynnyrch llaeth is, enillion pwysau byw dyddiol isel, twymyn, dolur rhydd a phroblemau resbiradol."

"Gan y tîm Gwaredu BVD, hoffem ddiolch o galon i chi am eich cymorth parhaus a'ch ymdrechion i ddileu BVD yng Nghymru. Rydyn ni yma i'ch cefnogi ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y rhaglen estynedig."

Mae cyfnod gwirfoddol y profion ar gyfer BVD yng Nghymru yn dod i ben ar 31 Mawrth 2021. Mae papur gan y diwydiant wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru er mwyn ystyried cymorth deddfwriaethol posibl yn dilyn yr ymgyrch wirfoddol hon a arweinir gan y diwydiant. Cynhelir ymgynghoriad yn yr Hydref lle rhoddir cyfle i'r diwydiant gyflwyno sylwadau cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol.

I gael rhagor o wybodaeth am yr estyniad i'r rhaglen, cliciwch yma neu cysylltwch â'r tîm ar gwaredubvd@colegsirgar.ac.uk