
Gwaredu BVD- y flwyddyn olaf
15th Oct 2019Mae Neil Paton, Cyfarwyddwr Technegol Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru - Gwaredu BVD, yn siarad â'r BVA am Gwaredu BVD, y camau nesaf a sut y gall milfeddygon helpu eu ffermwyr i baratoi.
Hyd hyn, mae 7500 o ffermydd wedi'w profi unwaith, ac mae milfeddygon wedi profi 4500 o ffermydd o dan fenter Gwaredu BVD. Mae hyn yn dyst i waith caled a brwdfrydedd milfeddygon yn y maes ac yn rhywbeth y gall y proffesiwn fod yn haeddiannol falch ohono.
Mae'r fenter hon bellach wedi cyrraedd ei blwyddyn olaf o sgrinio. O'r 1 o Fedi 2019 tan 31 Awst 2020, mae ffermwyr yng Nghymru yn gymwys i gael un sgrin olaf, yn rhad ac am ddim, gydag amser milfeddyg a ffioedd yn cael eu talu trwy Gwaredu BVD.
Darllenwch yr hyn sydd gan Neil i'w ddweud am y camau nesaf a sut y gall milfeddygon gefnogi eu ffermwyr yn y blog BVA gwreiddiol yma