Mae milfeddygon yn hanfodol ar gyfer BVD – gadewch i ni sicrhau newid gyda'n gilydd

5th Apr 2019 Gan Neil Paton

Ers i'r cynllun Gwaredu BVD ddechrau ym mis Gorffennaf 2017, rydyn ni wedi ymweld â thros 60 o bractisau milfeddygon i drafod pwysigrwydd y rhaglen a sut rydych chi'n chwarae rôl allweddol yn y broses. Gyda'n "pecynnau milfeddygon" – sy'n cynnwys yr offer angenrheidiol wrth i chi ymweld â ffermydd a phrofi buchesau – rydyn ni wedi cynnal llawer o drafodaethau pwysig am y ffordd y gallwn ni weithio gyda'n gilydd er lles anifeiliaid.

Rydyn ni wedi cael cryn dipyn o ganlyniadau cadarnhaol – gan gynnwys sylw yn y wasg genedlaethol a'n cyhoeddiad diweddar ein bod ni wedi profi 7,000 o fuchesau'n llwyddiannus ledled Cymru. Fodd bynnag, wrth i ni agosáu at y cyfnod "dim ond blwyddyn o brofi am ddim sydd ar ôl", mae'n bwysicach nag erioed i annog ein ffermwyr i fanteisio ar y gwasanaeth yma cyn y bydd hi'n rhy hwyr.

Dyma lle mae angen eich cymorth chi.

Fel milfeddyg, mae'n ddyletswydd arnoch chi nid yn unig i drin anifeiliaid o ddydd i ddydd, ond hefyd i drafod ac addysgu perchnogion yr anifeiliaid hynny. Mae'n bosib nad yw rhai ffermwyr yn ymwybodol eto o'r goblygiadau ariannol a allai fod ynghlwm â sgrinio am BVD ymhen blwyddyn, na deall pwysigrwydd profi eu buchesau am y clefyd gyda'i gilydd.

Gall fod yn anodd dechrau'r sgwrs yma gyda ffermwyr, ond rydyn ni am hwyluso'r broses gymaint â phosib, fel ei bod hi'n broses hawdd i bawb. Rydyn ni am sicrhau bod milfeddygon yn hyderus i drafod y pwnc ac annog ffermwyr i fanteisio ar y profion sgrinio am ddim, cyn y bydd hi'n rhy hwyr.

Gallwn ni eich cefnogi gyda’r gwaith o brofi am BVD

Mae rhai cwestiynau a all fod yn anodd i chi eu hateb ar adegau, felly dyna pam ein bod ni wrth law i'ch helpu –

C: Pryd fyddwch chi'n ymweld â fy fferm i brofi fy muches?
A: Byddwn ni'n ymweld bob blwyddyn, a bydd y sgrinio'n digwydd yn ystod yr un ymweliad â'r profion TB.

C: Does gen i ddim amser i chi brofi fy ngwartheg.
A: Ni fydd y prawf yn cymryd mwy na 5 munud ychwanegol o'ch amser ar ôl y prawf TB. Byddwn ni'n casglu sampl gwaed gan bump anifail sydd rhwng 9-18 mis oed, ac mae'n broses hawdd y gallaf ei gwneud yn ystod yr ymweliad yma. Byddwn ni'n rhoi'r canlyniadau i chi dri diwrnod ar ôl profi, ynghyd â'ch canlyniadau TB.

C: Yn ôl y gyfraith ar hyn o bryd, rwy'n dal yn gallu gwerthu fy ngwartheg hyd yn oed os ydyn nhw wedi'u heintio gan BVD. Pa ddiben sydd i brofi nhw felly?
A: Er nad yw hi'n orfodol yn ôl y gyfraith i brofi eich buches am BVD ar hyn o bryd, nid yw'n golygu na fydd yn orfodol yn y dyfodol, ac nid yw chwaith yn golygu na fydd prynwyr preifat yn dechrau gofyn am dystiolaeth bod y gwartheg yn rhydd o BVD. Mae iechyd a lles eich anifeiliaid yn bwysig iawn hefyd, felly rydyn ni o'r farn bod y sgrinio yma'n hanfodol i fonitro iechyd eich anifeiliaid. Mae sicrhau eu bod yn rhydd o BVD yn bwysig i’r diwydiant. 

C: Beth os ydw i'n penderfynu profi fy muches ar ddyddiad diweddarach?
A: Mae hynny'n hollol iawn, ond dim ond tan fis Awst 2020 mae modd i chi gael y profion am ddim. Mae’r cymorth ar gael tan y dyddiad hwn er mwyn eich helpu i ddelio â’r clefyd tra bod rhaglen Gwaredu BVD ar waith. Ar ôl hynny, bydd yn rhaid i chi dalu’r gost lawn yn uniongyrchol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw ofynion a allai fod mewn grym.

C: Pwy sy'n rhedeg Gwaredu BVD?
A: Mae Gwaredu BVD yn cael ei arwain gan y diwydiant, gan arbenigwyr. Mae'n cael ei gynnal gan Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru (AHWW) a sefydlwyd yn 2017 i gefnogi diwydiant amaeth Cymru. Mae AHWW yn fenter ar y cyd rhwng Coleg Sir Gâr a'r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol i ddarparu cynllun Gwaredu BVD.

 

Os hoffech chi ragor o gymorth am sgrinio BVD, mae croeso i chi gysylltu â'r tîm sydd bob amser ar gael i'ch helpu chi. Hebddoch chi, ni allwn ni sicrhau newid.