
Profi am ddim – sut mae'n gweithio a sut i'w gael
19th Mar 2019Mae Dolur Rhydd Feirysol y Gwartheg (BVD) yn ddolur rhydd sy'n cael ei achosi gan feirws sy'n cynhyrchu gwrthimiwnedd ac yn achosi i wartheg fethu â chenhedlu. Ar hyn o bryd, nid yw'n ofyniad cyfreithiol i brofi eich buches am BVD, ond nid yw hynny'n golygu nad yw'n bwysig i chi wneud. Mae dileu BVD yn flaenoriaeth gan Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru, ac yn cael ei ariannu gan Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru.
Gallai fod yn berchen ar fuches sydd wedi'i heffeithio gan BVD olygu canlyniadau lles ac ariannol enfawr i chi ac i'ch fferm; mae amcangyfrif blynyddol y costau yn £15,000 ar gyfer buches odro, a £4,500 ar gyfer buches eidion oherwydd diffyg ffrwythlondeb, llai o laeth yn cael ei gynhyrchu, pwysau byw is dyddiol, twymyn, dolur rhydd a phroblemau anadlu. Gallai'r costau hyn fod yn niweidiol, a dyna'r rheswm bod y cynllun Gwaredu BVD yn cynnig profion am ddim tan fis Awst 2020. Os caiff BVD ei ddarganfod yn eich gwartheg, mae modd i chi a'ch milfeddyg wneud cais am hyd at £500 i ganfod anifeiliaid sydd wedi'u heintio'n gyson yn eich buches. Mae'n debygol y bydd profi am BVD yn dod yn ddeddf cyn hir, felly dyna pam ein bod ni'n annog ffermwyr i ddefnyddio rhaglen Gwaredu BVD cyn y bydd hi'n rhy hwyr.
Pa mor hawdd yw profi am BVD?
Rydyn ni'n deall bod amser yn gostus, felly dyna pam mae'r broses o brofi am BVD yn gyflym, yn hawdd, ac ni fydd yn amharu ar eich trefn ddyddiol, brysur, ar eich fferm.
- Bydd y profion BVD yn cael eu cynnal ar yr un pryd â'ch profion TB yn ystod ymweliad blynyddol eich milfeddyg
- Bydd samplau gwaed yn cael eu casglu gan bump anifail sydd rhwng 9-18 mis oed
- Bydd canlyniadau yn cael eu rhoi dri diwrnod ar ôl dyddiad y profion
Mae rhaglen Gwaredu BVD yn cael ei harwain gan y diwydiant, sy'n golygu bod amrywiaeth o arbenigwyr wedi cael cyfle i ddweud eu dweud am y ffordd y dylai'r profion gael eu cyflawni, eu rheoli a'u cynnal. Mae Gwaredu BVD yn addo bod yn ddull newydd ac arloesol o ddileu'r clefyd. Nid yn unig bydd buchesau'n cael eu profi heb gostau ychwanegol, ond bydd eich milfeddyg yn eich addysgu am bwysigrwydd profi, a'r camau nesaf os oes angen.
Roedd Christine Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, yn ddigon parod i ddangos pa mor frwd oedd hi am y rhaglen yn y Ffair Aeaf yn ddiweddar yn Llanelwedd;
"Mae hyn yn ffordd o ddod â'r diwydiant ynghyd, i ganolbwyntio ar broblem gyffredin sy'n achosi caledi i'n ffermwyr, sy'n effeithio ar elw ein ffermydd. Mae'n glefyd sy'n gwbl bosib ei ddileu, ac mae hon yn ymdrech wych ar y cyd, felly rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn – nid yn unig o ran dileu BVD, ond fel model gweithio i'r dyfodol wrth edrych ar glefydau eraill."
Hyd yma mae 7,000 o buches - nifer sylweddol - wedi cael eu profi am y clefyd o dan y rhaglen, a'r llwyddiant hynny'n rhannol oherwydd parodrwydd ffermwyr sydd eisoes wedi cymryd rhan. Mae Cymru yn ymuno â'r Alban, Lloegr ac Iwerddon i weithio gyda'n gilydd i drechu BVD.
Mae'n bosib bod ansicrwydd i amaethyddiaeth gyda chanlyniadau Brexit, ond mae un peth rydyn ni'n sicr yn ei gylch - heddiw mae gyda chi gyfle am ddim i brofi eich buches am BVD, felly peidiwch â'i wastraffu.