Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru

Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru, a sefydlwyd i gefnogi’r diwydiant ffermio yng Nghymru drwy ddarparu atebion i rai o’r sialensiau allweddol o ran iechyd a lles anifeiliaid.

MAE SGRINIO BVD AM DDIM WEDI DOD I BEN. DARLLENWCH MWY AM Y CYFNOD NESAF O DDILEU BVD YNG NGHYMRU.

Cliciwch am fwy o wybodaeth

Gwaredu BVD

Darllenwch newyddion diweddaraf ar ddileu BVD yng Nghymru

 

Plenary session 31/01/23

Newyddion diweddaraf ar ddileu BVD yng Nghymru

 

Gwnaeth y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths, ddatganiad ar ddileu BVD yng Nghymru yn ystod Cyfarfod Senedd ar 31/01/2023.

Gwyliwch y clip yn llawn ar y dde.

Hysbyseb Gwaredu BVD ar S4C.

Am Gwaredu BVD

Roedd rhaglen sgrinio wirfoddol Gwaredu BVD ar gael i bob un o'r 11,000 o ffermydd gwartheg yng Nghymru. Roedd y raglen yn cynnig sgrinio BVD am ddim a cymorth i sicrhau bod ffermwyr yn gallu adnabod buchesi wedi'u heintio â BVD yn gywir ac yn gyflym. Roedd cymorth ariannol ar gael i gynnal helfeydd PI i ganfod unrhyw anifeiliaid sydd wedi’u heintio’n barhaus (PI) mewn buchesi heintiedig.

Roedd dros 9,200 (84%) o ffermydd gwartheg Cymru wedi cymryd rhan yn y rhaglen o 2017 - 2022, gyda dros 1,000 ohonynt yn cynnal Helfeydd PI. Roedd cyllid presennol ar gyfer Sgrinio Stoc Ifanc am ddim a chyllid Helfa PI wedi gorffen ar 31 Rhagfyr 2022. 

Os nad ydych chi wedi profi drwy raglen Gwaredu BVD, gofynnwch i'ch milfeddyg heddiw neu cysylltwch â'n tîm am fwy o wybodaeth.

Deall canlyniadau eich prawf BVD

Rydym wedi creu canllaw defnyddiol i'ch helpu i ddeall canlyniadau eich profion BVD a statws yn ogystal â gwybodaeth am ba gamau y dylech eu cymryd ar ôl sgrinio - cliciwch yma i ddarllen ein canllaw.

I grynhoi, os byddwch chi'n sgrinio'n negyddol, rydym yn eich annog i rannu eich statws wrth werthu, cynnal mesurau bioddiogelwch uchel a pharhau i sgrinio'n flynyddol. Os ydych yn derbyn sgrin bositif, nid ydych ar eich ben eich hun, mae tua 28% o fuchesi yn derbyn sgrin bositif ac efallai y bydd angen Helfa PI. Darllenwch fwy am Helfa PI yma.

Sioe Frenhinol 2022, Gwaredu BVD- Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.

Cymru heb BVD

Mae dileu BVD o Gymru yn bosibl ac mae'n flaenoriaeth i Gwaredu BVD. Bydd dileu'r clefyd yn gwella iechyd, cynhyrchiant a phroffidioldeb buchesi ledled Cymru.

Bydd Cymru heb BVD yn gwella enw da ffermio gwartheg yng Nghymru drwy hyrwyddo ein hymroddiad tuag at safonau lles anifeiliaid uchel mewn marchnad fyd-eang mor gystadleuol. 

Mae'r Alban ac Iwerddon, ynghyd â nifer o'n cymdogion Ewropeaidd eisoes ar eu ffordd tuag at rhyddid BVD, gadewch i ni weithio gyda'n gilydd ac ychwanegu Cymru at y rhestr!

Geirdaon

Eradicating BVD is one of the most important initiatives in Wales for two reasons. This is an immune depressing disease and so managing it is very important to stop cattle becoming susceptible to other disease. Secondly, it's important we have a high standard of animal heath and welfare in Britain so that we have a point of difference for our produce compared to other counties in the world.

- Wyn Jones, Chair of the Strategy Advisory Board for Farming Connect

Mae buches Gwion Owen, ffermwr Hendre Arddwyfaen, Tŷ Nant, Corwen, wedi cael ei phrofi, a dywedodd: “Roedd yr holl broses yn gyflym a hawdd iawn, ac nid oedd cost i mi. Nawr mae gen i’r tawelwch meddwl o wybod bod fy muches yn lân o BVD sydd mor bwysig o ran ffrwythlondeb y gwartheg ac am lawer o resymau eraill.”

- Farmer Gwion Owen of Hendre Arddwyfaen, Ty Nant, Corwen

BVD is costing our farmers a lot of time and money and it often leads to further health issues in cattle which can be devastating. Gwaredu BVD is a fantastic opportunity for farmers that will help with the problem in order to support their farms to be more profitable.

- Delana Davies, Farming Connect

Dr Neil Paton, Darlithydd mewn Iechyd Anifeiliaid Fferm ac Atgenhedlu yn y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol yw Arweinydd Technegol Milfeddygol y rhaglen. Dywedodd Neil: “Mae profion yn dangos bod mwy na chwarter buchesi eidion a llaeth Cymru wedi’u heintio â BVD, felly mae angen inni helpu ffermwyr da byw ar draws Cymru i weithio gyda ni i ddiagnosio p’un a yw eu buches wedi dod i gysylltiad â'r feirws, a chanfod unrhyw anifeiliaid sydd wedi’u heintio a’u gwaredu.”

- Dr Neil Paton, Lecturer in Farm Animal Health and Production at the Royal Veterinary College

'Gweithio mewn partneriaeth' yw un o brif egwyddorion y Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid, ac...mae'r dull cydweithredol hwn o weithio a chyflenwi yn fodel ardderchog a dylid ei gymhwyso i bob rhaglen. Byddwn yn gofyn i bawb ... barhau i annog ceidwaid gwartheg eraill yng Nghymru i gymryd rhan a gwybod beth yw eu statws BVD.

- Minister of Energy, Environment and Rural Affairs, Lesley Griffiths