Iechyd a Lles Anifeiliaid

Cafodd Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru (AHWW) ei sefydlu i helpu’r diwydiant ffermio yng Nghymru i ymateb i rai o’r sialensiau allweddol o ran iechyd a lles anifeiliaid. Mae’r corff hwn, sy’n cael ei arwain gan y diwydiant, hefyd yn gobeithio cyflawni rhai o’r blaenoriaethau a nodwyd gan Grŵp Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid.

Cydweithrediad rhwng Coleg Sir Gâr a'r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol yw AHWW. Wedi’i seilio yn y Ganolfan Ymchwil Amaethyddol ar gampws Gelli Aur Coleg Sir Gâr, fe’i sefydlwyd yn 2017 gan John Griffiths o Goleg Sir Gâr a Dr Neil Paton o’r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol, a hynny ar ôl i’r rôl o weithredu’r Rhaglen Gwaredu BVD dan arweiniad y diwydiant gael ei dyfarnu iddo.

Yn ogystal â rhoi’r rhaglen Gwaredu BVD ar waith ledled Cymru, mae AHWW hefyd wedi cyhoeddi papurau gan y diwydiant ar glefydau allweddol eraill o fewn y diwydiant.

Ei nod yw dod â buddion cadarnhaol i anifeiliaid fferm Cymru o ran eu hiechyd a’u lles.