Datganiad Llywodraeth Cymru 31/1/23

2nd Feb 2023

Gwnaeth y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths, ddatganiad yn ystod Cyfarfod Senedd ar 31 Ionawr, 2023, yn diolch i Gwaredu BVD a’r holl randdeiliaid a gymerodd ran yn y rhaglen am eu gwaith partneriaeth a’u hymdrech yn ystod y cyfnod gwirfoddol.

Detholiad o ddatganiad y Gweinidog:

 

 

“Mae rhaglen Gwaredu BVD yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio.

Wrth inni ddechrau’r cyfnod pontio a pharatoi ar gyfer deddfwriaeth yn y dyfodol, mae’n hanfodol bod ceidwaid yn parhau i brofi eu buchesi am BVD a chael gwared ar anifeiliaid sydd wedi’u heintio’n barhaus cyn gynted ag y bo modd.

Y bwriad ar gyfer cynllun yn y dyfodol yw i ddarparu set o ofynion i ganiatáu i geidwaid ddileu BVD o'u buchesi a'i gadw allan trwy fioddiogelwch da.

Byddai gofynion gorfodol yn sicrhau bod egwyddorion dileu BVD yn cael eu dilyn a bod y fuches genedlaethol yn gallu elwa ar ganlyniadau hirdymor rhyddid BVD.

Byddwn yn parhau i adeiladu ar gynnydd a llwyddiannau cyfnod gwirfoddol y cynllun ac wrth inni symud ymlaen i’w gam nesaf, hoffwn ddiolch i’r diwydiant gwartheg, partneriaid cyflawni a cheidwaid ledled Cymru am eu gwyliadwriaeth a’u hymdrechion hyd yn hyn tuag at ddileu BVD.”

Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig, a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

 

Mae'r clip fideo ar gael i wylio ar y dde.