Diweddariad ymgynghoriad BVD Llywodraeth Cymru
16th Jan 2023Mae Gwaredu BVD yn falch o rannu bod y crynodeb ymgynghori BVD ac ymateb Llywodraeth Cymru i'r crynodeb wedi'u cyhoeddi. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus drwy fis Gorffennaf ac Awst 2022 a chafwyd dros 100 o ymatebion o bob rhan o’r diwydiant.
Roedd 81% o’r ymatebwyr yn cytuno bod deddfwriaeth sy’n gofyn am sgrinio BVD gorfodol yn angenrheidiol i gyflawni rhyddid BVD yng Nghymru.
Mae Gwaredu BVD yn argymell bod y diwydiant cyfan yn parhau i brofi eu buchesi i fod yn barod ar gyfer deddfwriaeth bosibl ac i gadw’r enillion a wnaed wrth ddileu BVD o Gymru.
Gallwch ddarllen yr ymgynghoriad llawn ac ymateb Llywodraeth Cymru drwy glicio yma.
Byddwn yn parhau i ddiweddaru llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a gwefan Gwaredu BVD gyda’r newyddion diweddaraf am ganlyniad yr ymgynghoriad.