Rhaglen Gwaredu BVD yng Nghymru
Beth yw BVD?
Mae BVD yn glefyd sy’n cael ei achosi gan feirws sy’n creu gwrthimiwnedd a diffyg atgynhyrchu mewn gwartheg. Mae’n gwneud achosion o niwmonia, dolur rhydd a chlefydau eraill yn llawer gwaeth. Mae hefyd yn ei gwneud yn anodd i wartheg, a heffrod yn benodol, i feichiogi. Yn gyffredinol, mae hyn yn arwain at broblemau lles ac ariannol ar y fferm. Un o’r prif ffyrdd y mae’r feirws yn lledaenu yw trwy bresenoldeb gwartheg wedi’u heintio’n barhaus (PI) mewn buchesi.
Beth yw anifail sydd wedi’i Heintio’n Barhaus (PI)?
Mae BVD yn cael ei gynnal ac yn cael ei ledaenu’n bennaf gan bresenoldeb anifeiliaid sydd wedi’u Heintio’n Barhaus. Mae’r rhain yn cael eu heintio gan feirws BVD yn y groth ac nid ydynt byth yn gwaredu’r feirws, gan ei ledaenu bob dydd gydol eu hoes. Gallant fyw am sawl blwyddyn gan effeithio ar y fuches gyfan. Y dewis gorau yw gwaredu’r anifeiliaid hyn cyn gynted ag y byddwch yn eu canfod.
Pam ydych chi’n ymdrin â’r clefyd hwn?
Mae BVD yn gostus iawn i’r diwydiant ac mae gwledydd eraill yn Ewrop yn cymryd camau i waredu’r clefyd hwn o’u buchesi cenedlaethol. Os ydym ni am gadw’r gallu i fasnachu’n rhydd, mae angen i ni gydweithio a mynd i’r afael â’r clefyd hwn fel diwydiant.
A yw’n bosibl gwaredu’r clefyd oddi ar fy fferm?
Ydi - gydag arferion profi a rheolaeth briodol ar y fferm, mae’n bosibl gwaredu’r clefyd. Yn wir, mae nifer o ffermwyr yng Nghymru eisoes yn rhydd o’r clefyd ac yn masnachu gyda chydnabyddiaeth eu bod yn rhydd o’r clefyd.
Beth fydd angen i mi ei wneud?
Yn eich prawf Tb neu ymweliad milfeddyg nesaf, bydd cyfle i chi gael Milfeddyg i brofi eich buches. Byddant yn casglu 5 sampl gwaed gan bob grŵp o anifeiliaid 9-18 mis oed a’u hanfon i’r labordy a gytunir arno gennych chi a’ch milfeddyg. Bydd y canlyniadau’n cael eu dychwelyd i chi erbyn pan fyddwch yn darllen y prawf TB a gallwch drafod y camau nesaf gyda’ch milfeddyg. Daeth sgrinio stoc ifanc am ddim trwy raglan Gwaredu BVD i ben ar 31 Rhagfyr 2022 felly mae'r cost yn dibynnol ar bob practis.
Rydw i’n brechu, pam ddylwn i gymryd rhan?
Mae profiad helaeth yn y maes wedi dangos na fydd brechu’n unig yn gwaredu’r clefyd hwn. Bydd y rhaglen yn eich galluogi i wneud hynny a gellir brechu er mwyn diogelu rhag ail-gyflwyno ynghyd â mesurau ataliol eraill.
Beth fydd yn digwydd os bydd y clefyd yn bresennol?
Byddwch chi a’ch Milfeddyg yn gallu ymgeisio am gymorth ariannol i gynnal y profion priodol er mwyn canfod yr anifeiliaid sydd wedi’u Heintio’n Barhaus ar eich fferm. Unwaith y byddwch wedi canfod yr anifeiliaid, argymhellir y dylid eu gwaredu i’r lladd-dy cyn gynted â phosibl.
Beth ddylwn i'w wneud os nad yw’r clefyd yn bresennol?
Bydd gan eich milfeddyg gyngor priodol i chi er mwyn i chi allu diogelu eich buches.
A fydd fy Milfeddyg yn gwybod am y clefyd?
Mae BVD yn rhan bwysig o hyfforddiant Milfeddygon yn y Brifysgol. Darperir cyfleoedd hyfforddiant fel rhan o’r rhaglen i alluogi milfeddygon i ddysgu mwy.
Ym mhle alla i gael gwybodaeth bellach?
Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Cyswllt Ffermio, neu gallwch gysylltu â’ch milfeddyg neu dîm y rhaglen.