Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru
Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru, a sefydlwyd i gefnogi’r diwydiant ffermio yng Nghymru drwy ddarparu atebion i rai o’r sialensiau allweddol o ran iechyd a lles anifeiliaid.
Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru, a sefydlwyd i gefnogi’r diwydiant ffermio yng Nghymru drwy ddarparu atebion i rai o’r sialensiau allweddol o ran iechyd a lles anifeiliaid.
MAE SGRINIO BVD AM DDIM WEDI DOD I BEN. DARLLENWCH MWY AM Y CYFNOD NESAF O DDILEU BVD YNG NGHYMRU.
Gwnaeth y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths, ddatganiad ar ddileu BVD yng Nghymru yn ystod Cyfarfod Senedd ar 31/01/2023.
Gwyliwch y clip yn llawn ar y dde.
Roedd rhaglen sgrinio wirfoddol Gwaredu BVD ar gael i bob un o'r 11,000 o ffermydd gwartheg yng Nghymru. Roedd y raglen yn cynnig sgrinio BVD am ddim a cymorth i sicrhau bod ffermwyr yn gallu adnabod buchesi wedi'u heintio â BVD yn gywir ac yn gyflym. Roedd cymorth ariannol ar gael i gynnal helfeydd PI i ganfod unrhyw anifeiliaid sydd wedi’u heintio’n barhaus (PI) mewn buchesi heintiedig.
Roedd dros 9,200 (84%) o ffermydd gwartheg Cymru wedi cymryd rhan yn y rhaglen o 2017 - 2022, gyda dros 1,000 ohonynt yn cynnal Helfeydd PI. Roedd cyllid presennol ar gyfer Sgrinio Stoc Ifanc am ddim a chyllid Helfa PI wedi gorffen ar 31 Rhagfyr 2022.
Os nad ydych chi wedi profi drwy raglen Gwaredu BVD, gofynnwch i'ch milfeddyg heddiw neu cysylltwch â'n tîm am fwy o wybodaeth.
Rydym wedi creu canllaw defnyddiol i'ch helpu i ddeall canlyniadau eich profion BVD a statws yn ogystal â gwybodaeth am ba gamau y dylech eu cymryd ar ôl sgrinio - cliciwch yma i ddarllen ein canllaw.
I grynhoi, os byddwch chi'n sgrinio'n negyddol, rydym yn eich annog i rannu eich statws wrth werthu, cynnal mesurau bioddiogelwch uchel a pharhau i sgrinio'n flynyddol. Os ydych yn derbyn sgrin bositif, nid ydych ar eich ben eich hun, mae tua 28% o fuchesi yn derbyn sgrin bositif ac efallai y bydd angen Helfa PI. Darllenwch fwy am Helfa PI yma.
Mae dileu BVD o Gymru yn bosibl ac mae'n flaenoriaeth i Gwaredu BVD. Bydd dileu'r clefyd yn gwella iechyd, cynhyrchiant a phroffidioldeb buchesi ledled Cymru.
Bydd Cymru heb BVD yn gwella enw da ffermio gwartheg yng Nghymru drwy hyrwyddo ein hymroddiad tuag at safonau lles anifeiliaid uchel mewn marchnad fyd-eang mor gystadleuol.
Mae'r Alban ac Iwerddon, ynghyd â nifer o'n cymdogion Ewropeaidd eisoes ar eu ffordd tuag at rhyddid BVD, gadewch i ni weithio gyda'n gilydd ac ychwanegu Cymru at y rhestr!